Dilynwch yr ymarfer hyfforddi syml hwn i ddysgu sut i ddefnyddio Ap Cymuned CHAI ac i ddeall ei nodweddion craidd. Mae gan eiriau allweddol ddolenni i’r Canllaw Defnyddwyr CHAI.
Mewngofnodwch i’ch Cofnod CHAI a mynd trwy’r 10 tasg canlynol. Os nad oes gennych gyfrif CHAI, cofrestrwch yma. Yn ystod yr ymarfer hwn, byddwch yn defnyddio eich Cofnod CHAI Personol fel cofnod cleient enghreifftiol.
Gallwch newid a diweddaru eich cofnod pryd bynnag y dymunwch wedi i chi orffen yr hyfforddiant hwn.
Dylech allu gweld pob Tasg yn adran Nodiadau Cleient CHAI (byddwn yn dangos i chi sut i ddod o hyn i’r adran hon cyn hir). Wedi i chi gwblhau unrhyw Dasg benodol, cliciwch y sgwâr ar ochr chwith pob Tasg yn Nodiadau Cleient i’w nodi fel ‘tasg wedi’i chwblhau’.
Trwy gydol yr ymarfer hwn, cadwch lygad ar eich cleient (chi, yn yr ymarfer hwn).
Baner .
Gall hyn newid yn dibynnu ar y wybodaeth rydych yn ei hychwanegu at eich cofnod a bydd yn tynnu sylw at unrhyw bethau pwysig y mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt ar gip. Mae yna hefyd sawl eicon ar ochr dde’r faner sy’n Ddangosyddion Statws a Byrlwybrau i’r botymau y byddwn yn eu trafod isod, er mwyn i chi allu cyrchu gwybodaeth yn gyflym pan fo angen.
TASG 1:
Llywiwch i Dudalen Grynodeb Cleient A elwir hefyd yn Dudalen Hafan Cleient
Mae yna lawer o fotymau yn CHAI a fydd yn eich cyfeirio oddi ar Dudalen Grynodeb cleient. Os ydych byth yn ansicr ble’r ydychyn yr Ap, gallwch ddychwelyd yn hawdd i’r dudalen hon.
- Tra eich bod ar y Dudalen Grynodeb, cliciwch ar rai o’r botymau opsiwn yn y Ddewislen ar ochr chwith y sgrin (y rhestr o eiconau sy’n dechrau gyda ‘Manylion Personol’).
- Nawr, llywiwch yn ôl i’r Dudalen Grynodeb trwy glicio ar y blwch sgwâr i’r chwith o enw’r cleient (eich enw chi yn yr hyfforddiant/Cofnod Personol) yn y Faner ar frig eich sgrin. Yn nes ymlaen, bydd y blwch hwn yn cynnwys Eicon Personol yn dangos gwybodaeth gryno.
- Yna, bydd dau banel defnyddiol iawn i’w gweld:
TASG 2:
Cynnwys Gwybodaeth Pwysig
Mae’r adran Gwybodaeth Pwysig yn rhestru gwybodaeth allweddol y dylid ei nodi ar gyfer pob cleient. Mae pob eitem ar y rhestr yn fotwm y gallwch ei glicio er mwyn mewnbynnu’r wybodaeth i CHAI.
Ar ôl cynnwys y wybodaeth, bydd yr eitem ar y rhestr naill ai’n diweddaru i arddangos y wybodaeth neu bydd yn diflannu o’r rhestr a gellir adfer y wybodaeth o’r adran briodol yn y cofnod – yr un lle ag y gwnaethoch nodi’r wybodaeth).
- Cliciwch ar bob eitem yn y rhestr Gwybodaeth Pwysig a nodi’r wybodaeth sydd ei hangen.
- Cofiwch glicio ‘Cyflwyno’ ar waelod pob ffurflen er mwyn cadw’r wybodaeth.
- Dychwelwch i’r Dudalen Grynodeb wedi i chi lenwi pob ffurflen (Tasg 1).
TASG 3:
Creu Nodyn Cleient
Mae Nodiadau Cleient yn eich helpu i gadw golwg ar bethau pwysig sy’n gysylltiedig â chefnogi cleient.
- Gwnewch nodyn yn eich cofnod yn dweud ‘Defnyddio’r drws cefn wrth ymweld gan ei bod yn anoddach cyrraedd y drws ffrynt’. I wneud hyn, sgroliwch i frig Nodiadau Cleient a dilyn y cyfarwyddiadau.
- Gallwch ychwanegu atodiadau, recordiadau llais a lluniau yma hefyd
- Cliciwch “Cyflwyno”, a bydd y nodyn yn ymddangos ar frig eich Nodiadau Cleient.
TASG 4:
Creu Tasg
Rydych yn creu Tasgau yn eich Nodiadau Cleient fel atgof i gyflawni tasgau penodol.
- Gwnewch dasg i chi i ffonio’r Meddyg Teulu i drefnu casglu meddyginiaeth. Gwnewch hyn yn yr un ffordd â chreu nodyn ond cliciwch y blwch ticio yn y blwch glas allanol cyn clicio “Cyflwyno” ac ychwanegwch y dyddiad y mae disgwyl cyflawni’r dasg (gosodwch i 5 munud fel y gallwch weld sut mae tasgau sy’n hwyr yn cael eu nodi yn nes ymlaen yn yr ymarfer hwn).
- Cliciwch ‘Cyflwyno’ a bydd y dasg newydd yn ymddangos ar frig eich Nodiadau Cleient.
TASG 5:
Nodi manylion personol am eich cleient
Gadewch i CHAI eich helpu i gadw golwg ar Fanylion Personol pwysig am eich cleient ac i gael mynediad cyflym atynt, sy’n eich helpu i’w cefnogi.
Mae’n anhebygol y bydd angen i chi ddiweddaru Manylion Personol yn aml, ond mae’n werthfawr cael mynediad hawdd at y wybodaeth pan fydd ei hangen arnoch.
- Nodwch fanylion personol eich cleient trwy fynd i’r Dudalen Grynodeb a chlicio ar ‘Manylion Cleient’ yn y Ddewislen ar y chwith.
- Bydd nifer o fotymau eraill yn ymddangos i chi ddewis ohonynt.
- Wedi i chi glicio opsiwn, gallwch glicio ‘nesaf’ a ‘blaenorol’ i lywio’r opsiynau sy’n weddill neu defnyddiwch ewch porwr rhyngrwyd.
- Rhowch gynnig ar nodi rhai manylion (enghreifftiau am eich hun, gan mae eich cofnod chi yw hwn) yna dychwelwch i’r Dudalen Grynodeb (Tasg 1).
- Efallai y gwelwch rywfaint o’r wybodaeth wnaethoch nodi yn ymddangos ar eich Tudalen Grynodeb. Gallai hyn fod yn y rhestr ‘Gwybodaeth Pwysig’ neu fel testun tua brig y sgrin ger yr Eicon Personol (sydd ar hyn o bryd yn sgwâr gwag).
TASG 6:
Defnyddio ffurflenni Cymorth Dyddiol
Mae gan CHAI ffurflenni amrywiol sy’n eich galluogi i gofnodi llesiant eich cleient, creu rhestri siopa a chofnodi gofynion gofal anifeiliaid anwes yn hawdd. Dewch o hyn i hyn yn y botwm Cymorth Dyddiol yn y Ddewislen ar y Chwith ar y Dudalen Grynodeb. Rydym yn argymell eich bod yn llenwi’r Log Cysylltiadau bob tro yr ydych yn rhyngweithio gyda’ch cleient (mewn galwad neu wyneb-yn-wyneb), mae botwm byrlwybr i i’w gyrraedd yn haws (uwchben Cymorth Dyddiol).
- Creu Nodyn yn y Log Cysylltiadau: Gweithiwch trwy’r cwestiynau ar y sgrin, gan roi tic neu groes fel bo’n briodol, a theipio gwybodaeth neu clicio’r cylch perthnasol. Wrth ddychwelyd i’r log hwn mae’n bosib y bydd rhywfaint o wybodaeth wedi’i phoblogi ymlaen llaw o gofnodion log blaenorol a gellir gadael hyn os nad oes unrhyw beth wedi newid.
- Cofiwch gofnodi pryd mae angen i chi siarad neu ymweld â’ch cleient nesaf. Nodwch yr amser ar gyfer yr ymweliad nesaf fel 5 munud o nawr fel y gallwch weld yr hyn sy’n digwydd pan mae rhywbeth i gael ei gynnal.
- Cofiwch glicio ‘Cyflwyno’ ar waelod y dudalen i gadw’r wybodaeth.
- Creu Rhestr Siopa: Gallwch dynnu llun o rhestr sydd ar bapur neu deipio’r rhestr eich hun. Dyma ffordd hawdd o gofnodi’r hyn sydd angen eu prynu, pryd mae eu hangen ar y cleient a sut mae talu am y nwyddau.
- Nodi Cofnod Anifail Anwes: Cliciwch y tic neu’r groes i nodi pa fath o ofal sydd ei angen a phryd.
TASG 7:
Defnyddio Dyddiadur Iechyd
Mae Dyddiaduron Iechyd yn offerynau syml i wirio ac i atgoffa cleientiaid i reoli eu cyflyrau cronig yn rhagweithiol.
- Dewiswch unrhyw un o’r Dyddiaduron Iechyd sydd ar gael (e.e. COPD neu Asthma) trwy dapio’r botwm llithro i’r chwith o enw’r dyddiadur.
- Wedi dewis, cliciwch y botwm uwch ei ben i agor y ffurflen.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau i geisio caniatâd eich cleient cyn llenwi’r ffurflen. Yna llenwch a “Chyflwyno” y ffurflen.
TASG 8:
Nodi Asesiad Covid-19
Mae CHAI yn cynnig ffordd syml o gadw golwg ar Statws COVID-19 Aelwyd cleient. Mae hyn yn helpu i ddeall ffordd orau i gefnogi eich cleient, a pha fesurau diogelwch, os o gwbl, sy’n ofynnol yn ystod ymweliadau cartref (i chi ac unrhyw aelodau o’ch aelwyd).
Nodwch ‘Statws Coronafeirws Aelwyd’ a chlicio’r botwm ‘Prawf Aelwyd’ i gofnodi manylion unrhyw un ar yr aelwyd sydd wedi cael prawf COVID-19.
TASG 9:
Argraffu gwybodaeth fel dogfennau PDF
Gellir argraffu gwybodaeth a gofnodwyd yn CHAI i ddogfennau PDF.
- Cliciwch y botwm ‘Ffurflenni a PDFs’ yn y ddewislen ar y chwith.
- Ewch trwy’r opsiynau yn y ffenestr hon a cheisio argraffu eich rhestr siopa ddiweddaraf fel PDF trwy glicio’r botwm ‘Rhestr Siopa Ddiweddaraf’.
- Cofiwch fod yn rhaid i chi alluogi negeseuon naid ar y ddyfais rydych yn ei defnyddio fel bod y ffenestr newydd sy’n cynnwys y PDF yn agor yn llwyddiannus.
TASG 10:
Dod o hyd i dasgau sy’n hwyr
Mae tasgau’n cael eu gosod yn awtomatig ac â llaw yn CHAI ac maen nhw’n ymddangos yn Nodiadau Cleient. Bydd o leiaf un dasg nawr yn hwyr (gweler Task 4).
- Ewch i Nodiadau Cleient i weld y Dasg wnaethoch greu yn Nhasg 4. Bydd eicon cloch larwm oren iddi, a neges yn nodi’r dyddiad ar gyfer cyflawni.
- Bydd y nodyn atgoffa hwn yn cael ei ganslo pan fyddwch yn ticio’r Dasg wedi i chi ei chyflawni.
Rydych wedi cwblhau ymarfer hyfforddiant CHAI yn llwyddiannus.
Gyda rhywfaint o ymarfer, bydd defnyddio’r holl nodweddion hyn yn dod yn hawdd. Rhowch ail-gynnig ar yr hyfforddiant mewn diwrnod neu ddau a hynny heb gyfeirio at y Canllaw. Sylwch bod y Canllaw yn cynnwys Awgrymiadau a Chwestiynau Cyffredin a llawer mwy.
Gallwch gyrchu Canllaw CHAI unrhyw bryd ar waelod pob tudalen.