Cymraeg | Switch to English

Pryderon am Ddiogelwch a Help Llaw

Mewn unrhyw argyfwng, ffoniwch y gwasanaethau brys yn ddi-oed.
(999 yn y DU)

Dilynwch gyngor y criw ambiwlans.

Mewn argyfwng, gallwch ddarparu data meddygol perthnasol sydd wedi’i storio yn CHAI i’r gwasanaeth ambiwlans neu i’r parafeddygon:

  • Statws Coronafeirws yr Aelwyd
  • Statws Covid-19 yr unigolyn
  • Alergeddau
  • Meddyginiaeth
  • Hanes Meddygol
  • Perthynas Agosaf

Mae gan CHAI ddogfen PDF ddefnyddiol o Wybodaeth Gryno ar gyfer Ambiwlans sy’n coladu’r holl wybodaeth gyda’i gilydd mewn un man, ac mae’n cael ei diweddaru’n gyson. Mae hyn yn un peth llai i boeni amdano mewn argyfwng.

Dewch o hyd i’r ddogfen yn yr adran “Ffurflenni a PDFs”, yn y Ddewislen Ochr ar Dudalen Grynodeb y Cleient.

Pryderon nad ydynt yn argyfwng

Os nad yw’n argyfwng, ystyriwch drafod y mater gyda’r unigolyn dan sylw a/neu eich cydlynydd gwirfoddolwyr, gwirfoddolwyr eraill sy’n cefnogi’r unigolyn a’i berthynas agosaf.

Cysylltu gyda Gwasanaethau Cymorth

Efallai yr hoffech ystyried cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol neu asiantaethau cymorth proffesiynol eraill.

Fel rheol, byddai angen i chi gael caniatâd gwybodus penodol gan yr unigolyn cyn i chi rannu ei ddata personol. Rydym yn argymell eich bod yn cofnodi’r caniatâd hwn yn CHAI ac yn dilyn polisïau diogelu data eich grŵp.


Mae’n dderbyniol rhannu data heb gydsyniad os ydych chi’n credu bod person mewn perygl. Rydym yn argymell eich bod yn cofnodi eich rhesymau yn CHAI ynghyd â manylion y person rydych wedi cysylltu ag ef.

Wrth helpu person i gael cymorth pellach, byddwch yn wyliadwrus o dwyllwyr sy’n targedu pobl agored i niwed. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â chydlynydd eich grŵp, swyddfeydd y cyngor lleol, yr heddlu neu sefydliadau dibynadwy eraill yn y lle cyntaf.

Diogelu Plant ac Oedolion Agored i Niwed

Os ydych chi’n credu bod angen diogelu plentyn neu ddiogelu oedolyn agored i niwed rhag camdriniaeth, triniaeth wael, esgeulustod neu ecsbloetio, gwiriwch a oes gan eich grŵp gwirfoddolwyr bolisi diogelu eisoes a/neu ofynnwch am gyngor proffesiynol.

Os ydych chi’n credu bod trosedd wedi’i chyflawni neu fod y person agored i niwed mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch yr heddlu.

Nid oes gan y fersiwn hon o CHAI adran ddiogelu, felly peidiwch â nodi unrhyw fanylion cam-drin yn y feddalwedd oherwydd gallai gynyddu’r risg i unigolyn.

Problemau Iechyd Cronic ac Anableddau

Am gymorth i ddelio â phroblemau iechyd cronig hirdymor neu anableddau mae yna lawer o sefydliadau arbenigol yn cynnig cymorth. Rydym wedi rhestru rhai ohonynt isod, er nad ydym yn eu cymeradwyo.

Cyngor Ychwanegol

Rydym wedi rhestru rhai sefydliadau defnyddiol eraill yma, er nad ydym yn eu cymeradwyo.