Cymraeg | Switch to English

Cyflwyno Timau

Ar ôl creu grŵp CHAI, rydym yn argymell eich bod yn rhannu’ch gwirfoddolwyr yn Dimau ac yna’n aseinio cleientiaid i’r Tîm mwyaf priodol. Mae gennych yr hyblygrwydd i ddiffinio nodweddion Tîm, gan baru arbenigedd/lleoliad/profiad eich gwirfoddolwyr ag anghenion eich cleientiaid. 

Rydym wedi rhoi 3 enghraifft isod i roi blas i chi o’r posibiliadau. Cofiwch, gallwch rhoi gwirfoddolwyr a chleientiaid i fwy nag un Tîm os yw’n briodol. Gallwch hefyd greu Tîm sengl os yw hynny’n fwy addas i’ch grŵp.

Enghreifftiau

Enghraifft 1: Grwpiau Cymorth Cydfuddiannol

Mae gan y grŵp gwirfoddolwyr Cymorth Cydfuddiannol 3 Thîm gwahanol sy’n cynrychioli gwirfoddolwyr sy’n cwmpasu 3 ardal leol wahanol yn y gymuned.

Neilltuir cleientiaid i Dîm penodol yn seiliedig ar ble maent yn byw.

  • Station oad
    Covering from the station as far as the A55 Jn.

  • Union Street
    Covering the town centre and anywhere inside the ring road.

  • Barton in the Beans
    Including Main Street as far as Carlton Rd.

Enghraifft 2: Grwpiau Gwirfoddolwyr Cefnogaeth Cymheiriaid

Penderfynodd y grŵp gwirfoddolwyr lleol (cefnogaeth cymheiriaid) greu Timau yn seiliedig ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd gan eu gwirfoddolwyr i’w cynnig.

Neilltuir cleientiaid i’r Timau hyn ar sail eu paru â gwirfoddolwyr sydd yn y sefyllfa orau i gefnogi eu hanghenion penodol. Mae hyn yn cynnwys cynnig cefnogaeth cymheiriaid lle mae cleientiaid sydd â chyflwr penodol yn cael eu paru â gwirfoddolwyr sy’n byw gyda’r un cyflwr ac sy’n gallu darparu cefnogaeth trwy brofiadau a rennir.

  • Timau Dementia
    Profiad o weithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia.

  • Timau Diabetes
    Rhannu’r profiad o fyw gyda diabetes.

  • Timau Symudedd Cyfyngedig
    Gwirfoddolwyr sydd mewn sefyllfa dda i gynorthwyo’r rhai sy’n byw gyda symudedd cyfyngedig

  • Timau Cyfeillio
    Gwirfoddolwyr sydd ag amser rhydd ac sy’n hapus i ymweld yn hirach ac yn amlach gyda’r rhai sy’n teimlo’n ynysig o’u cymuned ac yn teimlo’n unig.

Enghraifft 3: Grwpiau Cymunedol

Rhannodd y gwirfoddolwr cymunedol lleol a’r grŵp gwneud tro da eu grŵp yn Dimau ar sail y math o gefnogaeth sy’n cael ei gynnig. Yn ddiweddarach byddant yn ychwanegu lleoliadau fel Enghraifft 1 a chefnogaeth cymheiriaid fel Enghraifft 2
ffôn.

  • Timau Gyrru
    Cludiant i apwyntiadau ac i siopa.

  • Timau Teleffon
    Cymorth pwrpasol ar alw, bob awr o’r dydd.

  • Timau Stepen Drws
    Galwadau cartref (gan ddilyn cyfyngiadau lleol).

Diogelu Data

Mae rhannu eich grŵp yn Dimau hefyd yn helpu gyda diogelu data, gyda chofnodion cleientiaid ond yn cael eu rhannu gyda’r rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chefnogi’r cleient (h.y. o fewn Tîm).

Sut i greu Timau o fewn eich Grwpiau

Mae Timau Cymunedol CHAI yn cael eu creu i ddechrau gan y Rheolwr Grŵp pan fydd yn creu ei Grŵp. Os ydych chi’n Rheolwr, gallwch greu eich Grŵp trwy glicio ar y ddolen isod a dilyn y dewin cam-wrth-gam syml. Defnyddiwch yr enghreifftiau yn yr adran uchod i helpu i nodi’r Timau mwyaf priodol i’ch Grŵp.

Os oes gennych chi Grŵp Cymunedol CHAI eisoes, gall Rheolwr y Grŵp ychwanegu Timau yn yr Ap Rheoli Defnyddwyr.

Rheoli eich Timau

Rheolir Timau gan y Rheolwr Grŵp yn yr Ap Rheoli Defnyddwyr.

Dyma lle gellir newid y rhestr o wirfoddolwyr (defnyddwyr) a’r rhestr o gleientiaid ar gyfer Tîm penodol. Gellir ychwanegu Timau Newydd at eich Grŵp yma hefyd.