Cymraeg | Switch to English

Help gyda’r Siopa

Mae rhai pethau i’w hystyried wrth siopa:

  • Beth yw Statws Covid-19 yr aelwyd?
    Cymerwch y rhagofalon angenrheidiol i amddiffyn eich hun a/neu unrhyw aelod o’r aelwyd.

  • A oes gan yr unigolyn unrhyw alergeddau bwyd neu anghenion arbennig (megis diabetes)?

  • A oes rhestr siopa y gallwch ddefnyddio neu a oes angen i chi greu un?

  • Pryd mae angen y siopa ac a oes angen i chi greu tasg (memo) os oes angen gwneud y siopa mewn rhai dyddiau neu os oes defnyddiwr arall yn gwneud y siopa?

  • Beth yw’r trefniadau o ran talu am y siopa a sut mae cofnodi gwario arian rhywun arall neu sicrhau fy mod yn cael fy ad-dalu?

Cam 1: Gwirio Statws Covid-19 yr Aelwyd Os yn ymweld mewn person

Nodir yr Eicon Statws Covid-19 cyfredol yn y Faner .

Cam 2: Gwirio am alergeddau bwyd a chyflyrau meddygol

Darllenwch am unrhyw Wybodaeth Pwysig ac Alergeddau ar Dudalen Grynodeb y person.

Cam 3: Llywio eich ffordd i’r Ffurflen Siopa

Tapiwch ar yr Eicon Cymorth Dyddiol naill ai yn y faner neu’r ddewislen gryno.

Bydd hyn yn mynd â chi i’r rhestr o Ffurflenni Cymorth Dyddiol.

Bydd tapio ar y teitl Siopa yn ei ymestyn i’r ffurflen lawn, fel y dangosir isod yn Cam 4.

Tip: Mae Ffurflenni Cymorth Dyddiol wedi’u marcio â bar lliw
i roi gwybodeth cryno i chi am y defnyddiwr diwethaf a gwblhaodd y ffurflen neu i roi gwybod a yw’n ddyledus yn fuan:

Bar Gwyrdd Ffurflenni wedi’u cwblhau gennych chi.

Bar Glas Ffurflenni wedi’u cwblhau gan rywun arall.

Bar Ambr Ffurflenni a fydd yn ddyledus yn fuan

Bar Coch Ffurflenni sy’n hwyr.

Cam 4: Llenwi’r Rhestr Siopa


Atebwch y cwestiynau ar y dudalen, sgroliwch lawr tan i chi gyrraedd y botwm CYFLWYNO.

Yn dibynnu ar y wybodaeth a nodwyd, efallai y bydd CHAI yn creu Tasgau yn awtomatig i’ch atgoffa pryd mae angen y siopa ac, os oes angen, i gasglu’r taliad.

Bydd yr eicon Cyswllt Dyddiol yn larymu’n awtomatig yn seiliedig ar y dyddiad mae angen y siopa.