Cymraeg | Switch to English

Cofnodi ymweliad

Defnyddio’r Log Cysylltiadau Cofnodi llesiant

Mae pob cyswllt gyda pherson bregus neu ynysig yn werthfawr iawn i’r unigolyn ac i’r grŵp cymorth.

Gellir cofnodi gwybodaeth bwysig a fydd o gymorth i’r unigolyn a’r grŵp cymorth yn y tymor byr a’r tymor hir.

Awgrym: Wrth ddefnyddio’r Log Cysylltiadau ceisiwch osgoi tarfu’n ormodol ar eich sgwrs gyfeillgar trwy bwyso botymau o flaen yr unigolyn.

Cam 1: Dod o hyd i’ch Cleient yn CHAI

Gan ddefnyddio Fy Rhestr chwiliwch am yr unigolyn y mae angen i chi newid ei fanylion.

Os nad yw’r unigolyn ar eich rhestr, siaradwch â’ch rheolwr grŵp neu’r rheolwr tîm.

Cam 2: Gwirio Statws Covid-19 yr Aelwyd (os yn ymweld mewn person)

Mae’r  Eicon Statws Covid-19 cyfredol wedi’i nodi yn y Faner .

Cam 3: Llywio eich ffordd i’r Log Cysylltiadau

Opsiwn 3.1: Llywio gan ddefnyddio’r Faner

Tapiwch ar yr Eicon Log Cysylltiadau yn y Faner .

Bydd hyn yn gweithio ar dudalen UNRHYW unigolyn a bydd yn mynd â chi’n syth i’r Log Cysylltiadau.

Os ydy’r Log Cysylltiadau yn hwyr, bydd symbol cloc coch ar yr eicon.

Os oes disgwyl cwblhau’r Log Cysylltiadau cyn hir, bydd cloch oren ar yr eicon.

Opsiwn 3.2: Llywio gan ddefnyddio’r Ddewislen Ochr Ar Dudalen Grynodeb y Cleient

Unwaith y byddwch ar Dudalen Grynodeb unigolyn, tapiwch yr eicon Log Cysylltiadau yn y Ddewislen Ochr ar ochr chwith y dudalen.

Opsiwn 3.3: Llywio gan ddefnyddio’r Rhestr Cymorth Dyddiol

Tapiwch ar yr Eicon Cymorth Dyddiol naill ai yn y Faner neu’r ddewislen Gryno.

Bydd hyn yn mynd â chi i’r rhestr o’r holl Ffurflenni Cyswllt Dyddiol.

Bydd tapio ar y teitl Log Llesiant yn ymestyn i’r ffurflen lawn, fel y dangosir isod yng Ngham Step 4.

Tip: Mae Ffurflenni Cymorth Dyddiol wedi’u marcio â bar lliw
i roi gwybodeth cryno i chi am y defnyddiwr diwethaf a gwblhaodd y ffurflen neu i roi gwybod a yw’n ddyledus yn fuan:

Bar Gwyrdd Ffurflenni wedi’u cwblhau gennych chi.

Bar Glas Ffurflenni wedi’u cwblhau gan rywun arall.

Bar Ambr Ffurflenni a fydd yn ddyledus yn fuan

Bar Coch Ffurflenni sy’n hwyr.

Cam 4: Cofnodi Llesiant yn ystod ymweliad neu alwad

Atebwch y cwestiynau ar y dudalen, sgroliwch lawr tan i chi gyrraedd y botwm CYFLWYNO.

Yn dibynnu ar y wybodaeth a nodwyd, efallai y bydd CHAI yn creu Tasgau yn awtomatig er mwyn diweddaru Statws Covid-19 yr Aelwyd a/neu Siopa (os ydy bwyd yn rhedeg allan o fewn rhai dyddiau).

Bydd y Log Cysylltiadau yn larymu’n awtomatig i gael ei ail-wneud yn seiliedig ar y dyddiad a nodwyd fel y dyddiad nesaf.

Bydd Eicon Personol Cleient a’i statws ar y Faner yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r Asesiad Llesiant.