Cymraeg | Switch to English

Ymuno â Chymuned CHAI

Gwybodaeth am Gymuned CHAI

Helpu eich cymuned i gyd-weithio fel tîm i fonitro a chefnogi pobl agored i niwed mewn ffordd gyfeillgar.

Monitro hanfodion unigolyn

Monitro llesiant a chyflenwadau hanfodol.

Helpu gyda’r pethau sylfaenol

Yn cynnwys siopa gydag opsiynau talu a gofal anifeiliaid anwes.

Dod i adnabod person

Deall y niwed mae’n agored iddynt a meithrin ymddiriedaeth.

Cadw llygad barcud cyfeillgar

Olrhain gallu unigolyn i ymdopi ac i osgoi creisis.

Deall effaith ynysu

Mesur ac olrhain unigrwydd a chydlynu cefnogaeth os oes angen.

Creu timau cymorth cymheiriaid gan helpu gyda chyflyrau cronig

Annog pobl i helpu eu hunain.

Gellir gweld manylion yr ymarferoldeb yn y canllaw defnyddiwr.

Ymuno
â Chymuned CHAI

Rhywun wedi gofyn i chi ymuno
â grŵp sy’n bodoli eisoes?

Creu Grŵp

Gallwch ddechrau defnyddio CHAI ar unwaith, am ddim yn ystod y cyfnod prawf 14 diwrnod. Ar ôl y cyfnod prawf byddwn yn cysylltu â chi ynghylch talu a pharhau i’w ddefnyddio. Os yw noddwr wedi prynu CHAI ar gyfer eich grŵp yna ni fydd angen taliad pellach.

Mae dewin i’ch helpu chi i greu Grŵp. Yn gyntaf, cewch eich tywys i Ymuno â CHAI (neu Mewngofnodi os ydych chi eisoes wedi ymuno), ac yna cewch eich tywys at y dewin gosod.

Cam 1: Ymuno
â CHAI

Byddwch yn hepgor y cam hwn os oes gennych gyfrif eisoes.


Fel arall, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ddolen Creu Grŵp isod ac ymuno fel defnyddiwr newydd. Dim ond cyfrif Google neu Facebook sydd ei angen arnoch chi, neu os yw’n well gennych gallwch ddefnyddio cyfeiriad e-bost.


Ar y cam hwn bydd cofnod wedi’i greu gyda’ch enw arno (eich cofnod eich hun yn CHAI). Gallwch ddefnyddio hwn i edrych ar y nodweddion, ond yn gyntaf mae angen i chi greu eich Grŵp.


Anfonir e-bost atoch yn awtomatig i’n galluogi i wirio’ch manylion. Os na fyddwch yn ei gael o fewn ychydig funudau yna gwiriwch eich ffolder Sbam neu Sothach. Os ydyw yn un o’r ffolderi hyn, symudwch ein e-bost i’ch Mewnflwch i helpu i sicrhau eich bod yn cael e-byst yn y dyfodol am CHAI. Dilynwch y ddolen yn yr e-bost, ac mae’ch cyfrif yn barod i chi greu Grŵp.

Awgrym: Ychwanegu CHAI i’ch nodau tudalen

Ar ôl i chi ymuno, cofiwch roi nod tudalen/pin i Cymuned CHAI fel ei fod ar flaenau eich bysedd pan fyddwch am ei ddefnyddio.

Gweld sut mae gwneud hyn.

Awgrym: Datrys problemau e-bost

Os na fyddwch yn cael y neges o fewn ychydig funudau yna gwiriwch eich ffolder Sbam neu Sothach. Os yw ynun o’r ffolderi hyn, symudwch ein e-bost i’ch Mewnflwch i helpu i sicrhau eich bod yn cael e-byst yn y dyfodol am CHAI.

Gweld sut mae gwneud hyn.

Cam 2: Creu Grŵp

Bydd y dewin yn eich tywys trwy’r camau canlynol:

  • Enwch eich Grŵp – ni allwch newid yr enw felly meddyliwch am rywbeth a fydd yn ystyrlon os bydd yn tyfu.
  • Creu Timau yn eich Grŵp – dysgwch am y gwahanol resymau rheoli, preifatrwydd a diogelwch dros aseinio’ch Defnyddwyr yn Dimau o fewn CHAI yma.

Cam 3: Ychwanegu Cleientiaid a Defnyddwyr

Ar ôl sefydlu’ch Tîm(au) rydych chi’n barod i aseinio Defnyddwyr a chreu cofnod(ion) Cleientiaid.

  • Creu cofnodion ar gyfer rhai neu bob un o’ch cleientiaid – dechreuwch â’u henw a’u rhif ffôn os ydych chi’n ei wybod. Mae pob cofnod wedi’i lwytho ymlaen llaw gyda chwestiynau pwysig i’w gofyn i’ch cleientiaid pan fydd gennych amser. Gallwch fynd trwy’r cwestiynau hyn dros y ffôn neu mewn person (yn amlwg yn dilyn unrhyw ganllawiau a deddfau Covid-19 a allai fod mewn grym).
  • Ychwanegu Ddefnyddwyr a’u neilltuo i Dimau – gofynnwch i’ch Defnyddwyr ymuno â CHAI ac anfon eu cyfeiriad e-bost wedi’i wirio atoch pan fyddant wedi ymuno. Yna byddwch chi’n gallu dod o hyd iddyn nhw trwy ddefnyddio’r nodwedd chwilio. Efallai yr hoffech chi aseinio rhai Defnyddwyr fel Rheolwyr Grŵp a rhai fel Rheolwyr Tîm i helpu gyda threfu (yn dibynnu ar faint eich Grŵp). Cofiwch fod gan Reolwyr fynediad ehangach i gofnodion cleientiaid a mwy o reolaeth dros aelodaeth Tîm na Defnyddwyr rheolaidd.

Ymuno â Grŵp

Mae’n debyg eich bod wedi cyrraedd y dudalen hon oherwydd bod rhywun wedi gofyn ichi ymuno â’u grŵp ar CHAI. Fel arall, os ydych chi’n bwriadu creu grŵp newydd, dilynwch y ddolen hon.

Mae creu cyfrif CHAI yn syml iawn gan ddilyn y camau isod.

Cam 1: Ymuno â CHAI

Cliciwch ar y ddolen isod i ymuno â CHAI a dilynwch y cyfarwyddiadau. Defnyddiwch eich cyfrif Google neu Facebook, neu os yw’n well gennych gallwch ddefnyddio cyfeiriad e-bost.

Anfonir e-bost atoch yn awtomatig i’n galluogi i wirio’ch manylion. Os na fyddwch yn cael y neges o fewn ychydig funudau, gwiriwch eich ffolder Sbam neu Sothach. Yn yr achos hwn symudwch ein e-bost i’ch Mewnflwch i helpu i sicrhau eich bod yn cael e-byst yn y dyfodol am CHAI. Dilynwch y ddolen yn yr e-bost ac mae’ch cyfrif yn barod i’w ddefnyddio.

Ar y cam hwn dim ond yn CHAI y gallwch weld eich cofnod eich hun. Gallwch ddefnyddio hwn i edrych ar y nodweddion. Bydd angen i chi ymuno â Grŵp cyn y gallwch weld cofnodion pobl eraill – gweler y cam nesaf.

Awgrym:
Ychwanegu CHAI i’ch nodau tudalen

Ar ôl i chi ymuno, cofiwch roi nod tudalen/pin i Gymuned CHAI fel ei fod ar flaenau eich bysedd pan fyddwch am ei ddefnyddio.

Gweld sut mae gwneud hyn.

Awgrym: Datrys problemau e-bost

Os na fyddwch yn cael y neges o fewn ychydig funudau, gwiriwch eich ffolder Sbam neu Sothach. Yn yr achos hwn, symudwch ein e-bost i’ch Mewnflwch i helpu i sicrhau eich bod yn cael e-byst yn y dyfodol am CHAI.

Gweld sut mae gwneud hyn.

Cam 2: Cysylltu â Grwp

Gadewch wybod i bwy bynnag a ofynnodd ichi ymuno â’u grŵp eich bod wedi cwblhau’r broses i ymuno â CHAI, a rhoi’r cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei ddefnyddio ar gyfer CHAI. (Dyma’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch chi ei wirio yng Ngham 1.) Gallant nawr ddod o hyd i chi yn CHAI a’ch ychwanegu at eu Grŵp a’ch aseinio i Dîm(au). Os na allwch weld cofnodion y bobl yr ydych yn eu disgwyl yna efallai eich bod yn y Tîm anghywir a dylech roi gwybod iddynt.

Wrth i chi aros i gael eich cysylltu, ewch i Cam 3.

Cam 3: Dechrau Arni

Ewch trwy eich cofnod eich hun i ddod i arfer â CHAI. Os oes gennych unrhyw broblemau gofynnwch i ffrind sydd eisoes yn ei ddefnyddio neu trowch at y Canllaw Defnyddiwr. Mae hyn yn cynnwys cwestiynau cyffredin (FAQs) ac Awgrymiadau a Chyngor. Mwynhewch ddefnyddio CHAI a helpu eraill!

Bod yn ofalwr, gwirfoddolwr a ffrind gwell!