Cymraeg | Switch to English

Cael y Gorau allan o CHAI

Mae nifer o nodweddion i Cymuned CHAI, ac mae manylion yn y Canllaw.  Mae’r argymhellion canlynol yn darparu dull cam-wrth-gam i ddod i arfer â CHAI ac ehangu eich gweithgareddau, os oes angen. 

Cymerwch eich amser, a chyn bo hir byddwch yn cyfrannu at welliant cam-wrth-gam yn niogelwch a llesiant pobl fregus yn eich cymuned.

CAM 1 Dechrau gyda Gwybodaeth Pwysig

Amlygir Gwybodaeth Pwysig mewn blwch ar frig Tudalen Grynodeb cleient .

Mae pob cofnod cleient newydd yn dechrau gyda chwestiynau sylfaenol i’ch helpu i ddechrau arni. Cliciwch ar y wybodaeth “anhysbys” a byddwch yn mynd i’r man cywir i nodi ateb y cwestiwn.

Bydd clicio ar y Blwch Eicon Personol ar frig y sgrin ar y chwith (efallai bydd yn wag i ddechrau ac yn wyrdd) yn dod â chi yn ôl i’r dudalen hon gydag unrhyw gwestiynau sy’n weddill.

CAM 2 Sefydlu Llinell Sylfaen Llesiant

Waeth bynnag yr help rydych chi’n disgwyl ei ddarparu, mae’n syniad da cofnodi sut mae’ch cleient yn dod ymlaen. Gallwch wneud hyn yn syml iawn trwy glicio ar y Log Cyswllt .

Defnyddiwch eich greddf i asesu llesiant yr unigolyn. Dylai cael cip cyflym ar ei amgylchedd roi syniad i chi o ba mor dda y mae’n cadw ei ardal fyw (ac o bosib, ei ardd), ac mae ymddangosiad personol yn ddangosydd cryf. Am y rhesymau hyn rydym yn argymell bod yr asesiad llesiant cychwynnol yn cael ei wneud yn bersonol yn hytrach na mewn galwad.

Ystyriwch ddefnyddio’r Dyddiaduron Iechyd os oes unrhyw bryder ynghylch cyflyrau cronig (er y gall hyn aros tan Cam 4 os oes yn well gennych). Dewch o hyd i’r asesiad unigrwydd (teimlo’n ynysig) yn y Dyddiaduron Iechyd. Sicrhewch eich bod yn gorffen eich sgwrs mewn ffordd galonogol os ydych wedi bod yn trafod cyflyrau cronig.

CAM 3 Defnyddio CHAI ar y dechrau i Helpu gyda’ch Gweithgareddau Cyfredol

Er bod CHAI yn offeryn pwerus, defnyddiwch y nodweddion yr ydych yn gyffyrddus â nhw i ddechrau.

Gall defnyddio’r nodwedd Tasgau i reoli tasgau fel trefnu siopa neu gasglu meddyginiaeth fod yn help mawr. Mae’r cofnod statws Covid-19 a’r cofnod alergeddau yn helpu i’ch diogelu chi, eich tim a’ch cleientiaid (gweler Diogelwch yn Gyntaf).

Rydym hefyd yn argymell ceisio cadw’r Log Cysylltiadau yn gyfredol os yn bosib, ni ddylai gymryd ond ychydig eiliadau ac mae’n werthfawr iawn.

CAM 4 Ehangu eich Gweithgareddau’n Raddol

Gallwch ddefnyddio CHAI i’ch helpu i fod yn fwy na help llaw.

Defnyddiwch y Dyddiadur Iechyd i helpu eich cleient i helpu ei hun. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr iechyd i gofnodi cynnydd ac i gynnig anogaeth i barhau i wneud yr hyn mae gofalwyr a meddygon wedi’i argymell.

Nid oes angen agor y Dyddiadur Iechyd ym mhob ymweliad/galwad.

CAM 5 Adolygu Cynnydd

Mewn rhai misoedd, edrychwch dros gynnydd eich cleient. Os yw’n edrych yn gadarnhaol ac i weld yn gwella, rhannwch hyn gyda’ch cleient i annod mwy o’r un ymddygiad.

Fel arall, os nad yw’r cynnydd mor dda ag y byddech wedi dymuno, trafodwch gyda’ch cydweithwyr neu eich rheolwr. Efallai y byddwch am drafod y mater gydag eraill, gyda chaniatâd eich cleient.

Yn amlwg, nid yw llesiant cyffredinol pob un yn mynd i fod yn gwella. Amcan defnyddio CHAI yw helpu i sicrhau bod eich cleient yn byw yn y ffordd orau posib o ystyried ei amgylchiadau, a’ch bod chi a’ch tim yn cynnig y gofal gorau posib, o ystyried eich amgylchiadau.

Cysylltu â ni

Os oes rhywbeth yr ydym yn ei wneud yn dda neu rywbeth y gallem fod yn ei wneud yn well, rhowch wybod i ni yn y Ffurflen Adborth.

Neu os oes gennych rai gofynion penodol, megis Dyddiaduron Iechyd wedi’u teilwra, anfonwch eich awgrymiadau atom.

Rydym yma i helpu.