Eiconau Pennawd Eiconau a ddefnyddir yn y Pennawd
Cyfeirir ar y bar gwyn ar draws brig y sgrin a’i eiconau fel Pennawd yr ap.
Mae’r eiconau hyn yn fotymau llywio byd-eang sy’n ymddangos ar bob tudalen.
-
Fy Rhestr
Y rhestr lawn o Gleifion a neilltuwyd i’m Timau, tapiwch yma i ddychwelyd i’r rhestr o gleientiaid. -
Sgwrs Grŵp
Darllen ac ysgrifennu negeseuon gydag aelodau arall y Tîm, wedi’i amlygu mewn glas pan fydd negeseuon heb eu darllen. -
Mewngludo Cleient
Efallai nad yw’r nodwedd hon wedi cael ei gweithredu ar eich fersiwn chi o CHAI, tapiwch yma i ddechrau’r broses o fewngludo Claf o gofnod allanol. -
Cydlofnodi Swp
Dim ond os oes angen cydlofnodi y mae angen ei ddefnyddio. Mae hyn yn galluogi Defnyddwyr dan Hyfforddiant i gyfrannu ond ni chaiff eu golygiadau eu cadarnhau nes bod Defnyddiwr Llawn yn eu cydlofnodi. Efallai nad yw’r nodwedd hon wedi cael ei gweithredu ar eich fersiwn chi o CHAI.
Rheoli Cyfrif a Chyfrinair
Defnyddiwch y byr-lwybr hwn i newid eich cyfrinair.Allgofnodi
Mae clicio ar yr eicon hwn yn eich allgofnodi o CHAI ac yn dychwelyd i’r sgrin mewngofnodi.
Eiconau Baner Defnyddir i arddangos gwybodaeth a chynorthwyo gyda llywio ar gyfer unigolyn penodol
Bydd pob cleient a neilltuwyd i’ch tîm yn cael ei gynrychioli gan faner yn eich rhestr, mae’n rhoi golwg gryno ar eu manylion personol a statws eu tasgau.
Tra yn y rhestr, mae tapio unrhyw le ar eu baner yn mynd i Dudalen Grynodeb yr unigolyn.
Ar y chwith eithaf, gwelwch Eicon Personol yr unigolyn, sef ffon-ddyn sy’n adlewyrchu ei symudedd a aseswyd yn y ffurflen Manylion Personol. Mae’r border yn adlewyrchu’r statws Llesiant diweddaraf, gweler manylion isod.
Ar y dde gwelwch yr Eiconau Statws a Byr-lwybrau.
Eiconau Symudedd Cleient Defnyddir yn yr Eicon Personol
Independent without aids
People who have a range of abilities, from being able to partake in exercise or are very active occasionally (e.g. seasonally) through to people who may have medical problems that are well controlled, but are not regularly active beyond routine walking.Independent with a stick
While not necessarily dependent on others for daily help, often symptoms may limit activities. A common complaint is being “slowed up”, and/or being tired during the day.Independent with a frame
These people often have more evident slowing, and need help in high order IADLs (finances, transportation, heavy housework, medications). Progressively impaired ability to complete some tasks such as shopping and walking outside alone, meal preparation and housework.
Independent with wheel chair
People who may have difficulty with some activities such as traversing stairs but are otherwise independent and able complete most tasks.Wheel chair with assistance
People who need help with all outside activities and with keeping house. Inside, they often have problems with stairs and need help with bathing and might need minimal assistance with dressing.Immobile
Completely dependent and require assistance to complete many tasks indoors and outdoors.
Cod Lliw Llesiant Eicon Personol Border a’r Tag Llesiant yn y Faner
Mae’r border lliw o amgylch yr Eicon Personol yn y Faner yn nodi Statws Llesiant Personol Cleient a nodwyd ddiwethaf yn y Log Cysylltiadau .
Gan ddefnyddio lliwiau goleuadau traffig i nodi, ar gip, sut mae’r cleient. Gwyrdd golau yw’r cyflwr mwyaf cadarnhaol, a border coch tywyll a ddefnyddir i nodi’r pryder mwyaf difrifol.
Yn ychwanegol at y border lliw, nodir llesiant unigolyn hefyd yn y testun a geir wrth ochr y tag perthnasol yn y faner.
1. Dim pryder amlwg
Iawn yn gorfforol ac yn feddyliol.2. No obvious concern but socially isolated
Signpost local support.3. Becoming a concern
Advise individual to seek professional help.4. A concern but improving
Possibly as a result of professional help.5. A concern & declining
Ask if professional help is being provided.6. A concern & declining
Professional help needed.
Eiconau Byr-lwybrau a Statws Gweler gwybodaeth bwysig, ar gip, yn y Faner a thapiwch i neidio’n syth i’r adran gywir
Eiconau Gweithredol
Mae eiconau yn y rhan hon a amlygwyd yn las yn nodi bod disgwyl un neu fwy o’r ffurflenni, neu fel arall mae angen sylw ar y ffurflenni.
Byr-lwybr Nodiadau sydd heb eu darllen
Trwy glicio, bydd y nodiadau ar ddangosfwrdd yr unigolyn yn ymddangos lle y gallwch atodi ffeiliau, recordio sain, testun, lluniau, creu tasgau a chadw memos.
Byr-lwybr Person ag Alergeddau
Pan mae wedi’i amlygu, mae’n rhoi gwybod i chi bod alergedd gan yr unigolyn. Bydd rhestr o fanylion cryno ar frig dangosfwrdd yr unigolyn, ond trwy dapio bydd manylion estynedig yn ymddangos.
Cydlofnodi
Mae’r eicon hwn yn nodi bod angen cydlofnodi cofnodion ar ffurflenni’r unigolyn. Efallai nad yw eich grŵp yn defnyddio’r nodwedd hon.
Log Cysylltiadau
Yma ceir y ffurflen y dylid ei llenwi ar gyfer pob cyswllt gyda’r cleient hwn. Gallwch nodi llesiant ac iechyd cyffredinol yr unigolyn ac unrhyw gymorth sydd ei angen.
Cymorth Dyddiol
Yma ceir y rhestr lawn o ffurflenni sy’n eich helpu i gofnodi’r gweithgareddau dyddiol defnyddiol rydych wedi’u cyflawni, gan gynnwys y Log Cysylltiadau a Siopa.
Tasgau sy’n Hwyr
Yn nodiadau’r unigolyn gallwch osod tasgau – bydd y byr-lwybr wedi’i amlygi pan nad yw’r tasgau wedi’u cyflawni. Trwy glicio, bydd y nodiadau’n ymddangos, wedi’u hidlo i arddangos y tasgau yn unig.
Dyddiadur Iechyd Actif
Os ydy’r unigolyn wedi cydsynio o flaen llaw, bydd rhai ffurflenni yn ganllaw i chi helpu’r unigolyn i reoli ei salwch cronig.
Eiconau Anweithredol
Mae’r eiconau yn llwyd pan mae’r ffurflenni yn gyfredol ac heb angen sylw.
Trwy glicio ar yr eiconau bydd y ffurflen berthnasol yn ymddangos. Mae eiconau yn y rhan hon a amlygwyd yn las yn nodi bod disgwyl un neu fwy o’r ffurflenni, neu fel arall mae angen sylw ar y ffurflenni.
Byr-lwybr Nodiadau sydd wedi’u darllen
Byr-lwybr Unigolyn heb unrhyw Alergeddau wedi’u nodi
Dim Cydlofnodi
Log Cysylltiadau yn gyfredol
Cymorth Dyddiol yn gyfredol
Dim tasgau yn hwyr
Dyddiadur Iechyd yn gyfredol
Eiconau Statws Covid a’r hyn maen nhw’n ei olygu
The covid status of the household is shown with one of the following icons.
Shielding
An individual in this household is at high risk due to medical history or age.
Potentially Immune
This Patient may be immune, has tested positive for antibodies or has received a vaccine – check details
Quarantined
This household may have the virus – get them tested/traced.
Unknown
Their status has not been recorded yet.
Isolating
This household is observing social distancing.
Eiconau Dewislen Gryno Gweld holl brif ffurflenni’r unigolyn
Ar ochr chwith Tudalen Grynodeb y cleient, y rhestr fertigol o eiconau yw’r Ddewislen Gryno, mae’r rhain yn ddolenni at rannau perthnasol ffurflenni’r Cleient.
Mae nifer hefyd yn yr Eiconau Byr-lwybr yn y Faner. Dewis personol yw pa eicon i’w ddefnyddio.
Mae cloch oren wrth eitem dewislen yn nodi bod disgwyl un o’r ffurflenni cyn hir.
Mae cloch goch wrth eitem dewislen yn nodi bod un o’r ffurflenni yn hwyr.
Manylion Cleient
Y casgliad o ffurflenni sy’n cynnwys gwybodaeth gefndir gyffredinol am yr unigolyn na fydd yn newid yn aml, fel enw, dewis iaith a hanes meddygol. Bydd i’r eicon hwn, a’r ffurflenni oddi mewn, gylch o’i amgylch sy’n nodi’r lefel gwblhau.
Log Cysylltiadau
Mae hwn yn mynd â chi i’r ffurflen sy’n eich galluogi i nodi llesiant ac iechyd cyffredinol yr unigolyn.
Cymorth Dyddiol
Yn mynd â chi at y rhestr lawn o ffurflenni sy’n eich helpu i gofnodi gweithgareddau dyddiol defnyddiol rydych wedi’u cyflawni, gan gynnwys y Log Cysylltiadau a Siopa.
Dyddiadur Iechyd
Os ydy’r unigolyn eisoes wedi cydsynio, mae rhai ffurflenni a fydd yn ganllaw i chi helpu’r unigolyn i reoli ei salwch cronig.
Ffurflenni a PDFs
Yma ceir y casgliad cyfan o ffurflenni Manylion Cleient yn ogystal â ffurflenni “Cysylltu â Gweithwyr Proffesiynol” a “Covid-19”.
Pryder neu Help Llaw
Os oes gennych bryderon am iechyd a llesiant yr unigolyn hwn, mae gan y ddolen allanol hon Concerns page ganllawiau ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu.
Eiconau Nodiadau Cleient Ysgrifennu nodiadau, atodi ffeiliau a chreu tasgau
Gallwch ychwanegu nodiadau at Dudalen Grynodeb y cleient trwy dapio y tu mewn i’r blwch testun uwchben yr holl nodiadau. Mae’r eiconau atodi hyn yn ymddangos o dan y blwch mewnbwn, mae tapio arnynt yn caniatau i chi ychwanegu at eich nodyn gyda manylion ychwanegol.
Atodyn Dogfen
Mae hyn yn agor llywiwr ffeiliau brodorol eich dyfais fel y gallwch atodi dogfennau i’ch neges. Dyma’r fformatau ffeil a dderbynnir: .txt, .pdf, .doc
Recordiadau Sain
Yn agor panel recordio sain. Tapiwch ar yr Eicon Meicroffon mawr i ddechrau recordio eich neges a thapio eto i stopio. Gallwch bob amser wrando ar eich neges cyn ei chyflwyno.
Atodyn Delwedd
Atodi delweddau i’ch nodyn trwy agor cymhwysiad trin delweddau brodorol eich dyfais lle gallwch naill ai dynnu ffotograffau yn uniongyrchol gyda chamera neu bori am ddelweddau sy’n bodoli eisoes.
Tasgau
Tapio i greu tasg yn nodyn yr unigolyn erbyn dyddiad/amser o’ch dewis.
Eicon Hidlydd Nodiadau Hidlo’r rhestr nodiadau
Ar Dudalen Grynodeb y cleient, mae’r eiconau hyn i’w gweld uwchben y rhestr o nodiadau. Ar dudalen nodiadau llawn claf, mae’r eiconau hidlo yn y golofn ar y chwith.
Mae tapio ar yr eiconau hyn yn hidlo’r rhestr o nodiadau fel ei bod ond yn dangos nodiadau o’r math hwnnw. Mae tapio ar eicon arall yn cynnwys y math hwnnw o nodiadau yn y rhestr sydd wedi’i hidlo.
Mae tapio ar eicon a ddewiswyd eisoes yn tynnu’r math hwnnw o nodiadau o’r rhai sydd wedi’u hidlo. Fel arall, gallwch dapio ar y botwm “ailosod” i gael gwared ar bob hidl.
Nodiadau Ysgrifenedig Defnyddiwr
Hidlo holl nodiadau’r unigolyn i’r rhai â ysgrifennwyd â llaw.
Nodiadau a Gynhyrchir
Hidlo i’r nodiadau a gynhyrchir yn awtomatig gan y system pan mae ffurflenni wedi’u llenwi neu pan amlygwyd gwybodaeth bwysig.
Dogfen yn Atodol
Hidlo i’r nodiadau sy’n cynnwys atodiad sain, llun neu ddogfen.
Tasgau
Hidlo’r holl nodiadau i’r rhai sy’n nodi tasgau sydd wedi’u cyflawni ac heb eu cyflawni.